Mae’r Pwyllgor yn adrodd i’r Cynulliad fel a ganlyn:
Offerynnau nad ydynt yn cynnwys unrhyw faterion i’w codi o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
Offerynnau’r Weithdrefn Negyddol
CLA11 - Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) (Diwygio) 2011
Gweithdrefn: Negyddol.
Dyddiad y’u gwnaed: 22 Mehefin 2011
Dyddiad y’u gosodwyd:29 Mehefin 2011
Yn dod i rym ar: 1 Awst 2011
CLA12 - Rheoliadau Llestri Cegin Plastig (Amodau ar Fewnforion o Tsieina) (Cymru) 2011
Gweithdrefn: Negyddol.
Dyddiad y’u gwnaed: 28 Mehefin 2011
Dyddiad y’u gosodwyd: 30 Mehefin 2011
Yn dod i rym ar: 1 Gorffennaf 2011
Offerynnau sy’n cynnwys materion i’w codi gyda’r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
Offerynnau’r Weithdrefn Gadarnhaol
CLA10 - Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2011
Gweithdrefn: Cadarnhaol.
Dyddiad y’u gwnaed: Heb eu nodi.
Dyddiad y’u gosodwyd: Heb eu nodi.
Yn dod i rym: Yn unol â Rheoliad 1(b).
Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad ar yr offeryn statudol hwn, sydd ynghlwm yn Atodiad 1, o dan Reolau Sefydlog 21.2 a 21.3. Lleisiodd y Pwyllgor bryder fod yr offeryn wedi cael ei wneud yn y Saesneg yn unig. Cytunodd y Pwyllgor fod angen dangos rhesymeg gliriach er mwyn egluro pam na ddylai offerynnau statudol ar y cyd gael eu gwneud yn y Gymraeg a’r Saesneg. Roedd yn arbennig o bwysig fod offerynnau sy’n cael eu gwneud o dan y weithdrefn gadarnhaol, neu offerynnau sy’n arwyddocaol mewn ffyrdd eraill, yn cael eu gwneud yn y Saesneg a’r Gymraeg. Cytunodd y Pwyllgor i ofyn i’r Cadeirydd ysgrifennu at Weinidogion i fynegi barn y Pwyllgor a gofyn am eglurhad pellach.
Busnes arall
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Bil Senedd y DU ynghylch Lleoliaeth
Trafododd y Pwyllgor y trydydd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â’r Bil Lleoliaeth, a gyfeiriwyd iddo gan y Pwyllgor Busnes o dan Reol Sefydlog 29.4. Roedd y Memorandwm yn ymwneud â rhagor o welliannau gan y Llywodraeth i’r Bil mewn perthynas â blaendaliadau tenantiaid a thrwyddedu tai amlfeddiannaeth.
Roedd disgwyl i’r Cynulliad ystyried y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â’r memorandwm hwn yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 12 Gorffennaf, ond ni osodwyd y memorandwm tan y diwrnod cyn cyfarfod y Pwyllgor. Er hynny, cafodd y Pwyllgor gyngor llafar gan ei gynghorwyr cyfreithiol.
Byddai’r gwelliannau a gynigwyd mewn perthynas â blaendaliadau tenantiaid yn rhoi 30 diwrnod, yn hytrach na 14 diwrnod, i landlordiaid gydymffurfio â’r gofynion presennol. Byddai hefyd yn cael gwared ar y bwlch cyfreithiol a ddaeth i’r amlwg yn ystod achosion diweddar o ymgyfreitha sy’n caniatáu iddynt, yn ymarferol, gydymffurfio ar unrhyw adeg cyn gwrandawiad llys ar y pwnc. Mae hefyd yn egluro’r hyn y gall tenant ei wneud pan fydd y denantiaeth eisoes wedi dod i ben ond ni ddiogelwyd y blaendal.
Byddai’r gwelliant mewn perthynas â thai amlfeddiannaeth yn eithrio grwpiau cydweithredol tenantiaid rhag gorfod cydymffurfio â’r gofynion trwyddedu ar gyfer tai amlfeddiannaeth o dan Ddeddf Tai 2004.
Gwna’r gwelliannau ddiwygiadau bach ond pwysig i ddeddfwriaeth Cymru a Lloegr, yn hytrach nag i ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i Gymru’n unig. Nid ydynt yn rhoi unrhyw bwerau i Weinidogion, ond maent yn newid geiriad y ddeddfwriaeth. Felly, nid oedd gan y Pwyllgor unrhyw reswm dros fynegi pryderon ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.
David Melding AC
Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
7 Gorffennaf 2011
Atodiad 1
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
(CLA(4)-03-11)
CLA10
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Teitl: Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2011
Gweithdrefn: Cadarnhaol
Bydd y Rheoliadau drafft hyn yn berthnasol yng Nghymru ac yn Lloegr.
Mae’r Rheoliadau yn diwygio rhai o’r darpariaethau sy’n ymwneud â rheoleiddio sylweddau ymbelydrol yn Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010 S.I.2010/675, er mwyn darparu system fwy modern a thryloyw sy’n hawdd ei defnyddio ar gyfer rheoleiddio sylweddau ymbelydrol sy’n peri risg isel iawn i bobl a’r amgylchedd, tra’n cynnal y lefel angenrheidiol o amddiffyniad.
Mae’r rheoliadau drafft hyn hefyd yn trosi darpariaethau’r Gyfarwyddeb Atal a Rheoli Llygredd mewn ffordd Integredig (Cyfarwyddeb 2008/1/EC) a’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (Cyfarwyddeb 2000/60/EC) sydd wedi’u mewnosod gan y Gyfarwyddeb Dal a Storio Carbon (Cyfarwyddeb 2009/31/EC).
Materion craffu: technegol
O dan Reol Sefydlog 21,2, gwahoddir y Cynulliad i roi sylw arbennig i’r offeryn a ganlyn:-
1. Ni wnaethpwyd y Rheoliadau hyn yn ddwyieithog.
[21.2(ix) – nad yw wedi’i wneud, neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg].
Rhinweddau: craffu
O dan Reol Sefydlog 21.3, gwahoddir y Cynulliad i roi sylw arbennig i’r offeryn a ganlyn:-
David Melding AC
Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
7 Gorffennaf 2011
Mae’r Llywodraeth wedi ymateb fel a ganlyn:
Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2011
Mae'r Rheoliadau cyfansawdd hyn yn diwygio rhai o'r darpariaethau sy'n ymwneud â sylweddau ymbelydrol yn Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010, Offeryn Statudol 2010.675, ac maent yn newid rhai o Erthyglau’r Gyfarwyddeb Dal a Storio Carbon (Cyfarwyddeb 2009/31/EC) ("y Gyfarwyddeb DSC").
Mae'r drefn Trwyddedu Amgylcheddol yn symleiddio'r rhannau hynny mewn ystod o ddeddfwriaeth hynod dechnegol a chymhleth sy'n ymwneud â gweithdrefnau. Mae hyn wedi'i gwneud yn bosibl symleiddio'r system drwyddedu y mae'r diwydiant a'r rheolyddion yng Nghymru a Lloegr yn ei defnyddio heb beryglu'r safonau amgylcheddol nac iechyd pobl mewn unrhyw ffordd. Oherwydd hyd a lled y ddeddfwriaeth, mae angen ei diwygio o bryd i'w gilydd. Gwnaed y newidiadau hyn drwy'r offerynnau cyfansawdd y cytunwyd arnynt â'r Ysgrifennydd Gwladol er mwyn symleiddio'r system. Mae'r offeryn cyfansawdd hefyd yn lleihau anghyfleustra a dryswch posibl i'r rheini y mae'r Rheoliadau yn effeithio arnynt, yn enwedig o ystyried bod Asiantaeth yr Amgylchedd (un o'r rheolyddion) yn gorff trawsffiniol. Mae'r Rheoliadau cyfansawdd hyn yn berthnasol i Gymru a Lloegr, ac mae'n rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd y DU eu cymeradwyo. Yn unol â hynny, nid ystyrir ei bod yn rhesymol ymarferol i'r Offeryn hwn gael ei osod ar ffurf ddrafft, na'i ddarparu'n ddwyieithog.
Mae'r Llywodraeth yn ymddiheuro na wnaed y diwygiadau hyn mewn pryd i fodloni'r dyddiad cau ar gyfer newid y Gyfarwyddeb DSC. Effeithiodd y materion a gododd o'r broses glirio fewnol cyn deddfu ar yr amserlen ar gyfer gweithredu'r Rheoliadau hyn.